UNISON Action

Rhown derfyn ar gyflog yn ystod y tymor yn unig i staff cymorth ysgolion yng Nghymru

Mae miloedd o staff cymorth ysgolion ledled Cymru mewn sefyllfa o dlodi mewn gwaith.

Rydym yn ymddiried ynddynt i ofalu am a dysgu plant, ond mae angen ail swyddi neu fudd-daliadau ar lawer dim ond i allu byw.

Mae cyflogau eisoes yn isel. Mae cyflog yn ystod y tymor yn unig yn gwneud pethau’n waeth, gan fod eu cyflog wedi’i seilio ar y 39 wythnos maen nhw yn yr ysgol, tra bod athrawon a phenaethiaid yn cael eu talu am y flwyddyn gyfan. Menywod yw'r rhan fwyaf o staff cymorth ysgolion, sy'n gwneud hwn yn fater o gyflog a chydraddoldeb rhywedd.

Rydym yn galw ar lywodraeth Cymru i roi terfyn ar anghyfiawnder cyflog yn ystod y tymor yn unig, a hynny ar unwaith, er mwyn codi staff cymorth ysgolion a'u teuluoedd allan o dlodi.

Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy Gorff Negodi Staff Cymorth Ysgolion ar gyfer Cymru, fel bod y gweithlu addysg cyfan yn cael ei drin a'i wobrwyo'n deg.

Gall unrhyw un lofnodi. Does dim angen i chi fod yn gweithio mewn ysgol na bod yn aelod o UNISON. Ychwanegwch eich enw i gefnogi cyflog teg i staff cymorth ysgolion.

Arwyddwch y ddeiseb

Eich manylion cyswllt

Trwy lofnodi, rwy'n hapus i UNISON gysylltu gyda mi am yr ymgyrch hon. Polisi Preifatrwydd.